Monbeg Dude yn ennill y National Cymreig
- Cyhoeddwyd

Does 'na ddim ceffyl wedi ei hyfforddi yng Nghymru wedi ennill y ras ers 1965
Ar ôl cael ei ohirio dros gyfnod y Nadolig oherwydd y tywydd garw fe gafodd y National Cymreig yn cael ei gynnal yng Nghas-gwent ddydd Sadwrn.
Yr enillydd oedd Monbeg Dude, ceffyl sy'n eiddo i'r chwaraewyr rygbi Nicky Robinson, James Simpson-Daniel a Mike Tindall.
Daeth y ffefryn Teaforthree yn ail.
Cafodd Teaforthree ei hyfforddi yn Sir Benfro.
Does 'na'r un ceffyl Cymreig wedi ennill y ras ers 1965.
Norther oedd yr enillydd olaf i'w hyfforddi yng Nghymru i ennill y ras yn 1965.
Yn wreiddiol roedd disgwyl i'r ras dair milltir a hanner gael ei chynnal ar Ragfyr 27.
Enillodd Teaforthree un o'r rasys yng Ngŵyl Cheltenham y llynedd ac mae disgwyl iddo gymryd rhan y Grand National yn Aintree fis Ebrill.