Cyngor Torfaen â £800,000 o offer technegol mewn storfa

  • Cyhoeddwyd
GliniadurFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y gliniaduron eu prynu ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd sy'n cymryd rhan yn rhaglen iLearn Wales

Mae cyngor sir sydd â 2,5000 o liniaduron segur ar ôl i gytundeb pryniant gyda sir arall fethu, gyda £800,000 o offer technoleg yn eu storfa.

Yn ôl Cyngor Torfaen cafodd yr offer ei brynu o dan gynllun peilot Llywodraeth Cymru oedd yn cynnwys Cyngor Casnewydd.

Gall cyfanswm yr offer sydd ddim yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor fod yn agos at £2 miliwn.

Dywedodd Cyngor Casnewydd na wnaethon nhw ymrwymo yn ffurfiol i'r cynllun.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn gweithio gyda'r cyngor i ganfod defnydd i'r offer.

Offer ychwanegol

Mae Torfaen yn dweud eu bod â'r offer ar ôl i Gasnewydd dynnu allan o gytundeb £1 miliwn oedd hefyd yn cynnwys Sir Fynwy.

Honiad y mae Cyngor Casnewydd yn ei wadu.

Mae Torfaen wedi cadarnhau bod gwerth £800,000 ychwanegol o offer mewn storfa.

Fe ddaw'r wybodaeth ddiweddara ar ôl cais o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth gan wasanaeth newyddion ar-lein ChannelWeb.

Cafodd yr offer eu prynu o dan gynllun peilot y llywodraeth, rhaglen iLearn Wales, i helpu disgyblion rhwng 14 ac 16 oed.

Mae'r cynllun yn weithredol mewn 11 o ysgolion uwchradd yn Nhorfaen a Sir Fynwy ac yn caniatáu disgyblion, rhieni ac athrawon i gael mynediad i waith cwrs a deunyddiau dosbarth ar y we.

Cafodd y rhan gyntaf o'r cynllun ei ariannu gan £9.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £2.28 miliwn ar y cyd gan gynghorau Torfaen a Sir Fynwy.

Trafodaethau

Y bwriad oedd cynnwys Cyngor Casnewydd ond fe wnaeth y cyngor hwnnw gamu nôl yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Torfaen bod yr offer ychwanegol yn cynnwys cysylltiadau rhwydwaith, offer diogelwch a'u bod wedi eu prynu ar yr un pryd a'r gliniaduron.

"Mae'r offer werth £786,000 ac fel y gliniaduron maen nhw mewn storfa tan fod Llywodraeth Cymru yn dod i benderfyniad am eu defnydd, yn fuan gobeithio."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd eu bod wedi bod mewn trafodaethau gyda'r ddwy sir arall ac wedi penderfynu na fyddai'r cynllun o fudd i'r ysgolion a'r disgyblion.

"Wnaeth y cyngor ddim gwneud addewid ffurfiol am y prosiect ac rydym yn synnu i ddeall bod Torfaen wedi bwrw ymlaen."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Torfaen a Sir Fynwy i sicrhau y bydd cyllid cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio "yn addas".

Ym mis Tachwedd dywedodd Cyngor Torfaen eu bod yn ceisio cael caniatâd i ddosbarthu'r peiriannau i gylch ehangach o ddisgyblion yn Nhorfaen a Sir Fynwy.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol