Camgymeriad lwcus i gwpl yn cipio £1m ar y loteri
- Published
Mae cwpl o Sir y Fflint yn dathlu ar ôl dod yn filiwnyddion dros y Flwyddyn Newydd a hynny "drwy gamgymeriad lwcus".
Enillodd Claire McManus a Scott Connah, y ddau yn 30 oed, ar raffl arbennig Dydd Calan yr EuroMillions.
Roedden nhw wedi gofyn i ffrind brynu un o'r cardiau crafu ond fe wnaeth y ffrind gamddeall a phrynu y tocyn EuroMillions llwyddiannus iddyn nhw yn lle.
Mae gan y cwpl dri o blant bach ac yn byw yng Nghei Connah.
Roedd ganddyn nhw un o 25 o docynnau raffl llwyddiannus Ddydd Calan.
"Rydan ni'n dal mewn sioc," eglurodd Ms McManus, sy'n fam llawn amser.
"Fe wnaeth dynes o gwmni Camelot gadarnhau bod ganddo ni docyn llwyddiannus a dweud 'llongyfarchiadau, rydach chi'n filiwnyddion'.
"Wnes i golapsio, eistedd ar y llawer yn chwerthin a chrio.
"Dwi ddim wedi cysgu ers hynny."
Anlwc
Mae'r cwpl yn aml yn prynu cardiau crafu ond prin iawn o docynnau'r EuroMillions maen nhw wedi eu prynu.
"Dyma'r camddealltwriaeth gorau erioed," ychwanegodd.
Dywedodd ei bod wedi mynd i'w gwely pan alwodd ei phartner arni i ddod i lawr i weld a oedd y tocyn yn un llwyddiannus.
"Fe wnes i edrych ar y tocyn unwaith, dwywaith, gofyn i Scott edrych arno cyn gofyn i'n rhieni oedden ni'n gweld yn iawn.
"Doedden ni ddim yn gallu credu'r peth.
"Roedden ni newydd fod yn tynnu'r addurniadau Nadolig i lawr ac roedd ffrind i mi wedi dweud bod hynny yn anlwcus.
"Dwi'n meddwl y byddai'n gwneud yr un peth y flwyddyn nesa!"
Dydi'r ddau ddim yn gwybod eto be fyddan ni'n ei brynu ond maen nhw'n awyddus i brynu eu cartref cyntaf yn yr ardal a mwynhau gwyliau teuluol moethus.