Anaf i George North

George North Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd North ei anafu nos Wener

Mae amheuaeth a fydd yr asgellwr George North ar gael i Gymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad sy'n dechrau ym mis Chwefror.

Fe wnaeth North gael ei gario o'r cau nos Wener wrth i Scarlets golli 47-17 i Ulster yn y Pro12 yn Ravenhill.

Mae Cymru yn chwarae eu gem gyntaf ar Chwefror 2 yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd.

"Yr unig beth rwy'n gwybod yw'r hyn welais ar y teledu wrth i'r digwyddiad gael ei ail chwarae," meddai Mark Jones hyfforddwr olwyr y Scarlets.

"Fe gafodd ben-glin i'w ben, ac mae ganddo boenau i'w ben a'i wddw. "

Mae North, 20, wedi chwarae i Gymru 26 o weithiau gan sgorio 11 cais.

Straeon perthnasol