Damwain farwol: Apêl am dystion

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion yn dilyn marwolaeth dynes 86 oed yn Sir Conwy nos Sadwrn.

Cafodd y ddynes ei tharo gan gar ar Ffordd Abergele yn Hen Golwyn tua 10pm.

Aed â'r ddynes i Ysbyty Glan Clwyd am driniaeth ond bu farw o'u hanafiadau.

Dywed yr heddlu iddi gael ei tharo gan gar Citroen Berlingo glas.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu ag ystafell reoli'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.