Dedfrydu mam am lofruddio'i mab
- Cyhoeddwyd

Bydd mam a lofruddiodd ei mab saith oed ar ôl ei guro yn ddidrugaredd yn cael ei dedfrydu ddydd Llun.
Roedd Sara Ege, 33 oed, wedi lladd Yaseen Ege yn eu cartref ym Mhontcanna, Caerdydd, ym mis Gorffennaf 2010 ac yna rhoi ei gorff ar dân.
Yn ystod yr achos, a barodd bum wythnos, clywodd y llys ei bod hi wedi curo ei mab am nad oedd wedi dysgu'r Coran ar ei gof.
Cafwyd hi'n euog ym mis Rhagfyr a bydd yn cael ei dedfrydu gan farnwr yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.
Cafwyd ei gŵr Yousuf Ege, 38 oed, yn ddieuog o ganiatáu marwolaeth plentyn drwy fethu â'i amddiffyn.
Cafwyd Sara Ege hefyd yn euog o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
'Fel petai'n gi'
Roedd hi wedi gwadu'r cyhuddiad o lofruddio gan honni mai ei gŵr oedd yn gyfrifol.
Yn wreiddiol y gred oedd bod Yaseen wedi marw mewn tân, ond ar ôl profion daeth i'r amlwg ei fod wedi marw rhai oriau ynghynt.
Yn ystod yr achos, dangoswyd darn o bren i'r rheithgor a gafodd ei ddefnyddio gan Mrs Ege i daro ei mab "fel petai'n gi", yn ôl yr erlyniad.
Clywodd y llys fod y fam wedi ei harestio wedi'r archwiliad post mortem a bod deunydd tanio barbiciw ar ei dillad.
Yn wreiddiol roedd y fam wedi cyfaddef i'r heddlu, ond yna newidiodd ei meddwl gan ddweud fod ei gŵr wedi ei gorfodi i gyfaddef.
Dywedodd Ian Murphy, ar ran yr erlyniad: "Pan gafodd ei holi, cyfaddefodd iddi fod yn dreisgar am flwyddyn.
"Ni ymdrechodd i chwilio am help meddygol...mae'n amlwg i'r bachgen ddioddef yn ofnadwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012