Trywanu: Arestio dau
- Cyhoeddwyd

Yr heddlu yn cynnal ymchwiliad yn ardal Glan yr Afon
Mae Heddlu'r De wedi arestio dau ddyn ar ôl i ddyn 28 oed gael ei drywanu mewn tŷ yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu, gan gynnwys plismyn arfog, eu hanfon i Ffordd Clare yn ardal Glan yr Afon am 11.34 nos Sadwrn.
Fe gafodd y dyn 28 ei anafu, ond dyw ei fywyd ddim mewn peryg.
Dywed yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol