Dim gwasanath bws am ddim i ysgolion ffydd?

  • Cyhoeddwyd
Arhosfan bws
Disgrifiad o’r llun,
Dywed Cyngor Sir y Fflint eu bod yn gwario £6 miliwn ar gludo disgyblion bob blwyddyn

Bydd cyngor yn ymgynghori ar gynlluniau i gael gwared ar wasanaethau bws am ddim i ddisgyblion ysgolion ffydd oni bai eu bod yn gallu profi eu cred gyda thystiolaeth fel tystysgrif bedydd.

Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru, byddai nifer o deuluoedd dan anfantais os yw'r polisi'n newid yn Sir y Fflint.

Ond dywedodd y cyngor y gallai diddymu'r cyllid dewisol arbed hyd at £100,000 y flwyddyn.

Mae'r awdurdod yn edrych ar ffyrdd eraill o dorri'r £6 miliwn sy'n cael ei wario ar drafnidiaeth ysgol ar hyn o bryd.

Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n parhau i gyflawni'r gofynion statudol ond eu bod yn adolygu rhai o'r trefniadau dewisol sy'n cael eu cynnig.

Mae hyn yn cynnwys newid eu polisi darparu trafnidiaeth am ddim i ysgolion enwadol, a oedd wedi'i gymeradwyo heb i ddisgyblion orfod rhoi prawf o'u cred.

Cynllun arall yw rhoi'r gorau i dalu am gludo pob myfyrwyr dros 16 oed i'r sefydliad addysg agosaf - dros dair milltir - sy'n cynnig y cyrsiau maen nhw'n dymuno eu hastudio "waeth pa mor bell" maen nhw angen teithio.

Yn ôl y cyngor, mae nifer cynyddol o fyfyrwyr yn teithio i Sir Gaer a Sir Gaerhirfryn i astudio ac maen nhw'n ystyried darparu trafnidiaeth am ddim i leoliadau lleol penodol yn unig.

Mae disgwyl y byddai hynny'n arbed tua £51,000 y flwyddyn.

Astudiaeth fanwl

Ond ychwanegodd y cyngor fod angen astudiaeth fanwl bellach cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

Fel rhan o hynny, mae 'na fwriad i ymgynghori gyda rhieni, ysgolion ac unigolion eraill yn ystod mis Ionawr.

Mae ysgolion lle byddai effeithiau unrhyw newidiadau wedi cael cais i ymateb, gan gynnwys ysgol Sant Richard Gwyn yn Y Fflint, a'r esgobaeth Babyddol yn Wrecsam.

Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru eu bod yn bwriadu cyfrannu at yr ymgynghoriad er nad oedd y cynlluniau'n effeithio ar eu hysgolion cynradd yn Sir y Fflint.

'Anfanteisiol'

"Rydym yn ymwybodol o gynlluniau Cyngor Sir y Fflint a byddwn yn ymateb maes o law gan ein bod yn teimlo ei bod yn anfanteisiol i rai teuluoedd," meddai llefarydd ar eu rhan.

"Ond dyw trafnidiaeth am ddim ddim yn berthnasol i'n hysgolion ni yn Sir y Fflint am eu bod i gyd yn ysgolion cynradd lleol."

Roedd adroddiad pwyllgor o gabinet y cyngor ym mis Tachwedd yn argymell y dylai unrhyw newidiadau gael eu cyflwyno wrth i ddisgyblion newydd gofrestru gydag ysgol neu goleg ar ddechrau'r flwyddyn academaidd yn 2013.

Ond mae disgwyl i gynghorwyr gynnal pleidlais derfynol ar y mater cyn mis Ebrill, wedi i'r ymgynghoriad ddod i ben ac i farn pobl gael ei ystyried.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol