Enwi menyw 63 oed fu farw yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi enwi menyw a ddarganfuwyd yn farw yng Nghasnewydd ddydd Sul.
Daethpwyd o hyd i gorff Penelope Elliott, 63 oed, yn agos i faes parcio Kingsway yn y ddinas tua 9:30am.
Roedd Mrs Elliott wedi bod ar goll o'i chartref ers dydd Iau Ionawr 3.
Nid yw'r farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol