Ceidwadwyr: 'Heddlu yn cludo cleifion i'r ysbyty'
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid i'r heddlu gludo dynes oedd ar fin rhoi genedigaeth i'r ysbyty am nad oedd ambiwlans ar gael yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law'r Ceidwadwyr Cymreig.
Daw'r wybodaeth yn sgil ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr sydd hefyd yn datgan bod yr heddlu wedi gorfod cludo pobl yn dioddef o strôc i'r ysbyty.
Mae Heddlu'r Gogledd, Heddlu'r De a Heddlu Gwent wedi ymateb i'r ceisiadau gan ddatgan bod yr heddlu wedi ymateb i alwadau oherwydd nad oedd ambiwlansys ar gael.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru am eu hymateb.
30 achos brys
Dywed y Ceidwadwyr fod ambiwlansys yn treulio gormod o amser mewn ciwiau y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys ysbytai.
Cludodd Heddlu Gwent 81 o bobl i'r ysbyty rhwng Tachwedd 2011 a Hydref 2012.
Roedd yr achosion hyn yn cynnwys rhywun oedd wedi dioddef strôc, rhywun oedd yn dioddef salwch oedd yn gysylltiedig â diabetes, a dyn meddw oedd wedi yfed hanner potel o hylif glanhau.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i 30 achos brys meddygol rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd y llynedd gan gludo 13 o bobl i'r ysbyty.
Roedd un ohonyn nhw'n ddynes oedd ar fin rhoi genedigaeth ac wedi dechrau gwaedu.
Bu'n rhaid i hen ddyn o Bort Talbot oedd wedi cwympo ar ôl strôc gael ei gludo i'r ysbyty gan ei deulu ar ôl aros am ambiwlans am awr a deugain munud.
Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd ymateb i 11 galwad brys meddygol rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2012 am nad oedd ambiwlansys ar gael.
Pryder
Bu'n rhaid i rywun oedd wedi cael ei gicio yn ei ben aros am awr a deng munud tan i ambiwlans gyrraedd.
Ni chynigodd Heddlu Dyfed-Powys unrhyw fanylion.
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar: "Mae'r ffaith nad oes ambiwlans ar gael mewn achos brys yn bryder.
"Mae rhai o'r achosion sydd wedi eu datgelu yn ddifrifol dros ben ac mae'n peri pryder bod cerbydau'r heddlu yn cludo cleifion.
"Mae gormod o ambiwlansys yn treulio gormod o amser mewn ciw y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys yn lle ymateb i alwadau brys."
Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths adolygiad o'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru ym mis Tachwedd y llynedd wedi pryderon bod y gwasanaeth wedi methu â chyrraedd ei dargedau o ran amser ymateb sawl gwaith yn 2012.
Cafodd llifogydd difrifol yng Nghymru eu beio am y perfformiad gwael.
Mae Mrs Griffiths wedi addo "adolygiad cynhwysfawr" fydd yn ystyried targedai a pherthynas y gwasanaeth gyda byrddau iechyd lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd27 Medi 2012
- Cyhoeddwyd17 Awst 2012
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012