Cefnwr Y Scarlets Morgan Stoddart yn ymddeol oherwydd anaf difrifol i'w goes

  • Cyhoeddwyd
Morgan StoddartFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Cefnwr y Scarlets a Chymru, Morgan Stoddart, wedi ei orfodi i ymddeol ar ôl anaf difrifol i'w goes ym mis Awst 2011

Mae cefnwr y Scarlets a Chymru, Morgan Stoddart, yn dweud ei fod yn ymddeol ar ôl anaf difrifol i'w goes ym mis Awst 2011.

Yn y gêm rhwng Cymru a Lloegr y llynedd torrodd ei goes mewn dau le a methodd â gwella'n llwyr.

Ni chwaraeodd am weddill tymor 2011-12 cyn dychwelyd i'r cae ym mis Hydref 2012.

Yn 28 oed chwaraeodd 85 gwaith i'r Scarlets, gan sgorio 130 o bwyntiau i'r rhanbarth.

Yn ogystal â bod yn gefnwr fe chwaraeodd fel asgellwr.

Ymunodd â'r rhanbarth yn 2006-7 â'i gêm gyntaf oedd yr un yn erbyn Caeredin ar Ionawr 5, 2007.

Yn ei ail gêm yn unig sgoriodd gais yn erbyn Ulster yng Nghwpan Heineken, un o 26 chais gafodd mewn saith mlynedd.

Carfan Cymru

Sgoriodd ei gais olaf dros y rhanbarth yn y gêm gyntaf ar ôl blwyddyn o driniaeth yn erbyn Dreigiau Gwent ym mis Hydref 2012.

Wedi ei eni yn Nhrealaw, Y Rhondda, cychwynnodd chwarae i glwb Treorci cyn ymuno â Phontypridd.

Yn ei dymor cyntaf gyda'r Scarlets enillodd wobr Chwaraewr y Flwyddyn Uwchgynghrair y Principality am y cyfraniad i dîm Llanelli.

Yn ystod tymor 2007-8 ymunodd â charfan Cymru ar gyfer gemau rhyngwladol yr hydref ac fe sgoriodd gais yn ei gêm gyntaf ar Dachwedd 14 2077 yn erbyn De Affrica.

Enillodd wyth cap rhyngwladol ac roedd yn paratoi ar gyfer Cwpan y Byd cyntaf pan gafodd ei anafu.

"Mae'r ffaith 'mod i'n gorfod ymddeol yn anodd iawn ac yn drist iawn," meddai.

'Yn lwcus'

"Mae'r misoedd wedi bod yn anodd wrth i mi sylweddoli na fydda i'n gallu gwella'n llwyr a bod yn ddigon iach i chwarae.

"Dwi wedi bod yn lwcus iawn i chware i'r Scarlets ac i Gymru ac wedi mwynhau pob gêm yn fy ngyrfa broffesiynol."

Dywedodd ei fod wedi gweithio'n galed i wella ac adennill ei lefel ffitrwydd.

"Ond ers i mi ddychwelyd i chwarae dwi wedi cael poen cyson yn fy nghoes sydd ddim wedi gwella.

"Ar ôl cyfres o brofion dwi wedi cael cyngor i beidio parhau i chwarae.

"Mae'n anodd rhoi'r gorau i chwarae ond mae'n haws gan fod y penderfyniad allan o fy nwylo.

"Mae gen i atgofion melys a fydda i byth yn anghofio'r Scarlets na'r cefnogwyr gwych."

Cefnogaeth

Diolchodd hefyd am gefnogaeth feddygol y clwb.

Dywedodd y chwaraewr astudiodd fio-gemeg fod "nifer o gyfleoedd cyffrous" yn bosib.

Dywedodd hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby, fod y cyhoeddiad yn siomedig.

"Mae wedi bod yn chwaraewr o safon ac wedi gweithio'n galed i wella o'i anaf cas.

"Fe fyddwn ni'n ei gefnogi yn y ffordd orau bosib' wrth iddo ystyried y cam nesa'."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol