Cyngor Môn yn ceisio barn oherwydd bwlch ariannol o £3.45m
- Cyhoeddwyd

Mae pwyllgor gwaith cyngor sir o blaid ymgynghori yn wyneb diffyg o o £3.5m yng nghyllideb 2013-14.
Clywodd y pwyllgor gwaith fod Cyngor Sir Ynys Môn yn wynebu diffyg o £10 miliwn dros y tair blynedd tan 2015-16.
Roedd y cyfarfod yn ystyried opsiynau wrth geisio arbed arian.
Ymhlith y toriadau posib' mae cau holl gyfleusterau cyhoeddus yr ynys, tocio ar wasanaethau bws a chau pum clwb ieuenctid.
Fe fydd y cyngor yn gosod y gyllideb a threth cyngor ym mis Mawrth.
'Penderfyniadau anodd'
Cyn y cyfarfod dywedodd prif weithredwr y cyngor, Richard Parry Jones, fod y setliad ar gyfer 2013-14 yn "hynod anodd a heriol".
"Dyma'r cynigion cychwynnol fydd yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor gwaith, gan wybod fod rhaid gwneud penderfyniadau anodd er mwyn cwrdd â'r targedau ariannol o ran arbedion effeithlonrwydd."
Dywedodd arweinydd y cyngor, Y Cynghorydd Bryan Owen: "Heb os, mae gennym benderfyniadau anodd i'w gwneud dros y misoedd nesaf ond ein bwriad yw amddiffyn gwasanaethau rheng flaen drwy sicrhau effeithlonrwydd gwirioneddol ac ymarferol.
"Gallaf sicrhau pobl Ynys Môn na fydd y cyngor yn cymryd unrhyw benderfyniadau mawr heb ymgynghori'n llawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012
- Cyhoeddwyd25 Medi 2012