Dyn o Slofacia yn gwadu llofruddiaeth yn Y Bala

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Daethpwyd o hyd i Branislav Gula mewn fflat yn Y Bala fis Tachwedd

Mae dyn 23 oed yn wreiddiol o Slofacia wedi gwadu llofruddio dyn yn Y Bala y llynedd.

Ar ôl ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon cafodd Julius Hecko ei gadw yn y ddalfa.

Fe fydd y gweithiwr becws o'r Bala yn ymddangos eto ar Fawrth 18.

Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio Branislav Gula, 42 oed,.

Cafodd Mr Gula ei lofruddio mewn fflat yn Heol Plasse, Y Bala, ar Dachwedd 10.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol