Pwll glo Aberpergwm: 290 yn colli eu swyddi
- Cyhoeddwyd

Wedi ymgynghoriad barodd am dri mis daeth cadarnhad y bydd pwll glo Aberpergwm ger Glyn-nedd yn cau.
Mae cyhoeddiad y perchnogion, Walter Energy, yn golygu bron 300 o ddiswyddiadau.
Bydd 20 o weithwyr yn parhau ar y safle'n gwneud gwaith cynnal a chadw.
Mae'r cwmni o America yn beio'r hinsawdd economaidd a llai o archebion.
Pris y glo
Dywedodd Wayne Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Glowyr yn Ne Cymru, mai un o'r rhesymau am gau'r pwll oedd pris y glo sydd wedi gostwng 25% yn ystod y misoedd diwethaf.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Walter Energy am eu hymateb.
Roedd mwy o lowyr yn Aberpergwm nac yn unrhyw bwll arall yng Nghymru.
Dywedodd Mr Thomas mai'r bwriad gwreiddiol oedd diswyddo 290 o bobl ym mis Ionawr.
"Ond collodd pawb eu gwaith ar Ragfyr 21. Roedd yr amseru'n wael iawn.
'Anodd iawn'
"Mae hanner y gweithlu dros 50 oed ac mae'n anodd iawn cael swydd yn yr ardal hon."
"Bob tegwch i'r cwmni doedden nhw ddim am ddiswyddo unrhywun," meddai.
Roedd y cwmni, meddai, wedi cymryd camau i gadw nifer o brentisiaid am chwe mis ychwanegol fel bod modd iddyn nhw orffen eu hyfforddiant.
Dywedodd Mr Thomas ei fod yn debygol y byddai'r pwll yn ailagor.
"Mae synnwyr cyffredin yn dweud eu bod yn diogelu'r pwll i'r dyfodol am eu bod yn cynnal rhaglen cynnal a chadw."
Agorodd pwll glo Aberpergwm yn hwyr yn y 19eg ganrif ac yn ei anterth roedd mwy na 1,500 yn gweithio yno yn ystod yr 1930au.
Cafodd y pwll ei gau ym 1985 ond fe'i ail agorwyd gan gwmni preifat flwyddyn yn ddiweddarach.
6.8 miliwn
Y gred yw bod 6.8 miliwn tunnell o lo heb ei gloddio yn y pwll.
Dywedodd AS Castell-nedd, Gwenda Thomas: "Mae hon yn ergyd drom i lowyr Aberpergwm ac ardal Glyn-nedd am fod nifer o swyddi sy'n talu'n dda wedi eu colli.
"Bydd colli'r swyddi hyn yn cael effaith amlwg ar yr economi leol.
"Mae dyfodol y diwydiant glo yn nwylo'r prentisiaid oedd yn gweithio yn Aberpergwm ac rwyf i a'm swyddfa wedi gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, Walter Energy a'r undeb i warchod dyfodol y gweithwyr hyn."
Straeon perthnasol
- 19 Hydref 2012
- 4 Medi 2012
- 18 Tachwedd 2011
- 3 Tachwedd 2011