Ceffylau yn helpu camddefnyddwyr sylweddau

  • Cyhoeddwyd
Ceffyl
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y prosiect yn cyflwyno ystod o gyrsiau rheoli ceffylau

Bydd cynllun sy'n defnyddio ceffylau i helpu camddefnyddwyr sylweddau mewn ardaloedd trefol yn derbyn arian loteri.

Gyda'u grant o £793,893 gan y Gronfa Loteri Fawr, mae mudiad Cyrenians Cymru Cyf yn bwriadu darparu canolfan geffylau newydd a fydd yn cael ei redeg gan y gymuned yn Abertawe

Mae cynllun 'Community Horse and Pony Scheme' (CHAPS) yn ceisio mynd i'r afael â phroblem clymu a gadael ceffylau, ac ar yr un pryd cefnogi pobl ddi-waith, camddefnyddwyr sylweddau a phobl ifanc sydd wedi'u dadrithio yn y gymuned.

Mae gan Gymdeithas Tai Gwalia 600 o anheddau yn ardal Blaenymaes, Abertawe, ac wedi gweld achosion o geffylau'n cael eu tywys trwy fflatiau cymunedol i bori mewn iardiau mewnol, a cheffylau sydd wedi marw o oerfel yn cael eu claddu mewn gerddi cefn.

Sgiliau bywyd sylfaenol

Yn ôl y Gronfa Loteri Fawr mae ystadegau am 2011 yn dangos bod 129 o geffylau wedi'u hatafaelu gan yr Awdurdod Lleol, cynnydd o 71 o 2010.

Amcangyfrir bod 600 o geffylau mewn ardaloedd trefol yn Abertawe, ond mai dim ond 300 o berchnogion ceffylau sydd yno.

Yn ogystal â hynny, cyfeiriwyd 1,112 o bobl i raglenni ailsefydlu ar ôl cyffuriau gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol yn 2011, yr oedd 823 ohonynt wedi tynnu'n ôl o raglenni triniaeth cynharach.

Disgrifiad o’r llun,
Yn ystod yr ail flwyddyn bydd y cynllun yn cyflwyno microfusnesau cadw gwenyn a ffermio mwydod

Er mwyn ymdrin â'r problemau hyn bydd CHAPS yn cynnwys bloc stablau i 20 o geffylau ac yn darparu chwe cham hyfforddi dros y tair blynedd nesaf ar gyfer dros 1,200 o bobl fregus yn y gymuned, gan gynnwys camddefnyddwyr sylweddau.

Bydd y prosiect yn cyflwyno cyrsiau achrededig ac anachrededig gan gynnwys ystod o gyrsiau rheoli ceffylau a choetiroedd a sgiliau bywyd sylfaenol.

Yn ystod yr ail flwyddyn, bydd y prosiect hefyd yn mabwysiadu pum merlen ar gyfer marchogaeth ac yn cyflwyno microfusnesau cadw gwenyn a ffermio mwydod.

'Diogelwch cymunedol'

Dywedodd Cydlynydd Marchnata a Phartneriaethau gyda Cyrenians Cymru, Polly Stone: "Bydd y prosiect yn ymdrin â pherchnogaeth ar geffylau mewn ardaloedd trefol, ceffylau wedi'u gadael a materion lles, gan ddefnyddio ceffylau ar yr un pryd i gynorthwyo gyda therapi ac ailsefydlu camddefnyddwyr sylweddau, yn enwedig y rhai sy'n gaeth i heroin.

"Mae'r defnydd o heroin a pherchnogaeth ar geffylau mewn rhannau trefol o Abertawe wedi cynyddu'n gyflym dros y tair blynedd diwethaf."

"Mae CHAPS yn ddull arloesol o ymgysylltu â phobl efallai nad ydynt yn hygyrchu gwasanaethau hanfodol.

"Yr amcan hir dymor fydd sefydlu stablau a chanolfan farchogaeth a arweinir gan y gymuned a fydd hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl eraill gymryd rhan mewn ystod o hyfforddiant, mentrau a gweithgareddau awyr agored.

"Yn gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau bydd y cynllun yn creu ymagwedd newydd at ymdrin â phroblemau sy'n ymwneud â niwsans ceffylau, diogelwch cymunedol, cyffuriau ac eithrio cymdeithasol - gan arwain at gydlyniant cymunedol gwell a gwell lles i bobl ac anifeiliaid bregus."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol