Tân Prestatyn: Menyw 43 oed yn y ddalfa
- Published
Yn Llys y Goron Caernarfon mae menyw 43 oed wedi gwadu pum cyhuddiad o lofruddiaeth.
Cafodd Melanie Jane Smith o Brestatyn ei chyhuddo o gynnau tân yn fwriadol, tân arweiniodd at farwolaeth cwpwl ifanc a thri o blant ym Mhrestatyn ym mis Hydref.
Bu farw Liam Timbrell, 23 oed, ei bartner Lee-Anna Shiers, 20 oed, a'u mab Charlie oedd yn 15 mis oed yn ogystal â nai a nith Lee-Anna - Skye a Bailey Allen, dwy a phedair oed.
Roedd Melanie Jane Smith yn ymddangos ar gyswllt fideo o'r carchar.
Gorchmynnodd y Barnwr Merfyn Hughes QC y dylai gael ei chadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar Fawrth 18 a disgwylir i'r achos yn ei herbyn ddigwydd yn ystod mis Ebrill.
Roedd y diffynnydd hefyd yn gwadu cyhuddiad arall o fygwth rhoi tŷ ar dân ym mis Medi'r llynedd.
Straeon perthnasol
- Published
- 14 Tachwedd 2012
- Published
- 5 Tachwedd 2012
- Published
- 31 Hydref 2012
- Published
- 20 Hydref 2012