Ceidwadwyr yn erbyn prynu maes awyr

  • Cyhoeddwyd
Cardiff airport
Disgrifiad o’r llun,
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i brynu Maes Awyr Caerdydd ym mis Rhagfyr

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud fod rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos y bydd prynu Maes Awyr Caerdydd yn rhoi gwerth am arian i'r trethdalwr.

Bydd y Ceidwadwyr yn defnyddio dadl yn y Senedd i feirniadu'r hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel cynnig Llafur i "wladoli'r maes awyr".

Mae Gweinidogion y llywodraeth yn dweud bod y farn gyhoeddus o'u plaid.

Maen nhw'n disgwyl cwblhau'r cytundeb i brynu'r maes awyr dros y misoedd nesaf yn dilyn trafodaethau gyda'r perchnogion presennol TBI.

Yn y gorffennol bu'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn feirniadol o'r maes awyr sydd wedi gweld gostyngiad yn nifer y teithwyr sy'n ei ddefnyddio.

Ym mis Rhagfyr, datgelodd Mr Jones fwriad Llywodraeth Cymru i brynu'r maes awyr cyn belled bod y cytundeb yn cael ei graffu'n ofalus.

Dim cymhorthdal

Does dim pris wedi cael ei ddatgelu, ond dywedodd Mr Jones y bydd cwmni masnachol yn cael y dasg o redeg y maes awyr os fydd y cytundeb yn cael ei gadarnhau.

Dywed rhai ffynonellau y bydd y gost yn debyg o gyrraedd "degau o filiynau" o bunnoedd, ac y bydd yr arian yn dod o gyllidebau presennol Llywodraeth Cymru.

Er gwaethaf addewidion na fydd yn derbyn cymorthdaliadau nac yn faich ar y trethdalwr, mae cwestiynau wedi cael eu gofyn a fydd perchnogaeth gyhoeddus yn llwyddo i wella pethau i'r maes awyr.

Ddydd Mawrth, fe wnaeth Mr Jones amddiffyn y penderfyniad wrth wynebu Aelodau Cynulliad am y tro cyntaf ers cyhoeddi'r cynllun.

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru "yn falch o'r ffaith ein bod wedi sicrhau dyfodol Maes Awyr Caerdydd" gan honni bod y Ceidwadwyr "allan o gysylltiad gyda'r farn gyhoeddus".

'Helbul ariannol'

Bydd y Ceidwadwyr yn ceisio cynyddu'r pwysau ar weinidogion mewn dadl yn y Senedd ddydd Mercher, gan ddweud bod cysylltiadau trên a bysiau i'r maes awyr o Gaerdydd yn dila iawn o gymharu â chysylltiadau i faes awyr Bryste.

Dywedodd llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr, Byron Davies, bod cyhoeddi'r cynllun i brynu'r maes awyr yn ystod gwyliau'r Cynulliad yn dangos "diffyg tryloywder".

"Dydw i ddim yn credu mai gwladoli yw'r ffordd ymlaen," meddai.

"Does dim rheswm ar hyn o bryd i gredu y bydd perchnogi Maes Awyr Caerdydd yn unrhyw beth ond helbul ariannol arall."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol