Newid mawr i'r Gwasanaeth Prawf

  • Cyhoeddwyd
Carchar

Mae'r Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan, Chris Grayling, wedi cyhoeddi newidiadau mawr i'r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru a Lloegr.

Fe fydd y newidiadau yn golygu y bydd cwmnïau preifat a grwpiau elusennol yn cael cymryd cyfrifoldeb am fonitro troseddwyr yn y gymuned.

Bydd y cynlluniau yn destun ymgynghoriad cyn cael eu cyflwyno.

Mae tua 1,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru, ac yn ôl undeb y swyddogion prawf, NAPO, fe allai'r newidiadau weld 750 ohonyn nhw yn colli eu gwaith.

Dywed llywodraeth y DU mai dyma'r newid mwyaf i'r Gwasanaeth Prawf ers iddo gael ei greu gan mlynedd yn ôl, ac mae'r cynlluniau i bob pwrpas yn golygu mai dim ond am y troseddwyr mwyaf peryglus y byddan nhw'n gyfrifol pan fyddan nhw'n gadael y carchar.

Y newid mawr arall yw y bydd troseddwyr yn cael eu goruchwylio ar ddiwedd dedfrydau byr - rhywbeth fydd yn digwydd am y tro cyntaf.

Ond fe ddaw'r oruchwyliaeth gan gwmnïau diogelwch preifat a chyrff gwirfoddol a fydd yn cael eu talu yn ôl eu llwyddiant wrth geisio atal ail-droseddu.

Mae'r ffigyrau yn dangos bod tua 200,000 o garcharorion sy'n cael eu rhyddhau yn cael eu hystyried yn risg isel neu ganolig, gyda 50,000 yn cael eu hystyried yn risg uchel.

'Syfrdanol'

Eisoes mae rhai o fewn y Gwasanaeth Prawf wedi mynegi anfodlonrwydd gyda'r cynlluniau, gan fynnu bod y gwasanaeth wedi cyrraedd pob nod a osodwyd iddynt dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Harry Fletcher o Gymdeithas Cenedlaethol Swyddogion Prawf (NAPO) : "Mae'r penderfyniad yma yn syfrdanol.

"Mae'n symudiad ideolegol yn llwyr, ac yn cael ei frysio heb ystyried y goblygiadau yn iawn, ac os fydd y cynllun yma yn mynd yn ei flaen, fe fydd yn peryglu'r dasg o warchod y cyhoedd.

"Mae rhai gweinidogion yn honni bod y gwasanaeth yn methu oherwydd y raddfa o ail-droseddu ymysg troseddwyr carcharorion tymor byr, ond does gan y Gwasanaeth ddim cyfrifoldeb i oruchwylio unrhyw un sydd wedi treulio dedfryd o 12 mis neu lai o dan glo."

Mae rhai hefyd yn honni mai newid er mwyn torri costau y mae'r llywodraeth, ac mae gweinidogion San Steffan yn cyfaddef eu bod yn disgwyl i'r cynllun wneud arbedion sylweddol.

Pryderon

Roedd Gwyn Jones, cyfreithiwr troseddol yng ngogledd Cymru hefyd yn amheus o rai elfennau o'r cynllun. Dywedodd:

"Y pryder sydd gen i yw y bydd diffyg cydweithio rhwng y ddwy uned, a throseddwyr yn disgyn rhwng dwy stôl.

"Y posibilrwydd yw y bydd nifer yn disgyn drwy'r rhwyd yn yr achos yma."

Mae'r Aelod Seneddol Elfyn Llwyd yn aelod o Bwyllgor Cyfiawnder San Steffan, ac ar y Post Cyntaf fore Mercher, roedd yn ffyrnig yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth.

"Y broblem fwya' yw bod gormod o droseddwyr yn mynd i garchar am 12 mis neu lai, ac yn ail droseddu'n fuan wedyn," meddai.

"Does gan y Gwasanaeth Prawf ddim cyfrifoldeb am y rheini.

"Fe ddaw dim lles o fath yn y byd o hyn - rydym mewn perygl o golli degawdau o brofiad o fewn y Gwasanaeth Prawf - rhoi rhagor o'u pobl ar y stryd yw'r ateb.

"Ystyriwch G4S - maen nhw wedi dangos eu bod yn wael o safbwynt carchardai, a'r Gemau Olympaidd, a dyma'r bois - ffrindiau'r llywodraeth - fydd yn cael y gwaith."

Roedd yn ymateb hefyd i'r ffaith y bydd y cwmnïau preifat yn cael eu talu yn ôl llwyddiant wrth ddelio gyda throseddwyr risg isel, ac ychwanegodd:

"Yr hyn welwn ni yw cwmnïau anferth sydd ddim yn poeni am wneud colled eleni os fyddan nhw'n gwneud elw'r flwyddyn nesaf - nid y gwasanaeth sy'n bwysig iddyn nhw.

"Rhaid cofio bod troseddwyr 'risg isel' yn arbennig o ddiflas i'r cyhoedd gan mai dyma'r rhai sy'n ail-droseddu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol