Ymchwilio i farwolaeth heb esboniad ym Mhont-y-pŵl
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio i farwolaeth heb esboniad wedi i gorff dyn yn ei chwedegau gael ei ddarganfod yn Heol y Farchnad ym Mhont-y-pŵl.
Roedd y dyn o Gaerffili.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 12.35pm ond cyhoeddwyd bod y dyn wedi marw.
"Mae plismyn yn ceisio cadarnhau amgylchiadau'r farwolaeth," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.