Ymgais i wella delwedd canol tref
- Cyhoeddwyd

Bydd cynllun yn cael ei sefydlu i geisio gwella delwedd tref fwyaf y gogledd er mwyn hybu masnach yno.
Bydd cynghorwyr Wrecsam yn cyfarfod ddydd Mercher er mwyn ystyried sut i wella y ddelwedd sydd gan bobl o ganol y dref.
Dros y blynyddoedd diweddar, mae rhai o'r enwau mawr fel Marks and Spencer a Boots wedi symud o'r Stryd Fawr i ganolfan siopa cyfagos.
Ond dywed y cyngor bod hyder busnesau a masnachwyr ar i fyny er gwaetha' nifer o flynyddoedd anodd.
'Cynulleidfa newydd'
Dywedodd rheolwr canol tref Wrecsam, Isobel Garner, mai'r nod oedd adnabod elfennau positif y dref ac adeiladu ar hynny.
Dywedodd: "Mae'r dref wedi newid yn eitha' dramatig dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Mae hi bellach yn dref prifysgol, ac maen ganddi felly gynulleidfa allweddol newydd."
Nod y cynllun yw dyfeisio ymgyrch hybu sy'n targedu busnesau yn y dref, y cyfryngau a siopwyr.
Dywed yr awdurdod lleol eu bod am hybu cymeriad Wrecsam ynghyd â chyfeillgarwch a natur hamddenol y lle.
Bydd gwefan newydd yn cael ei chreu i ganolbwyntio ar atyniadau a digwyddiadau , ac fe fydd unedau siopa gwag yn cael eu haddurno'n ddeniadol.
Arolwg
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r canran o unedau gwag yng nghanol trefi yn aml yn cael ei ddefnyddio fel mesur o fywiogrwydd y lle.
"Yn Hydref 2012, roedd y raddfa o siopau gwag yn genedlaethol yn 11.3%."
Ond mae nifer yr unedau gwag yn Wrecsam wedi gostwng yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol, ac mae'r raddfa yno bellach yn 10%.
Dangosodd arolwg o fusnesau'r dref yn Hydref 2011 bod y busnesau wedi gweld cynnydd o 100% mewn trosiant, a phan gafodd yr arolwg ei wneud eto flwyddyn yn ddiweddarach roedd dau allan o bob tri busnes yn dweud bod trosiant naill ai wedi codi neu wedi aros yr un peth.
Ychwanegodd Ms Garner: "Mae hyder wedi tyfu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond rhaid i ni beidio llaesu dwylo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2012
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2008