BBC Cymru Fyw

Alfreton 1-2 Wrecsam

Published
image copyrightOther

Alfreton 1-2 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi esgyn i frig y gynghrair yn dilyn buddugoliaeth galed yn Alfreton nos Fawrth.

Does dim dwywaith mai Alfreton gafodd y gorau o'r chwarae gydol y gêm, ond er hynny Wrecsam aeth ar y blaen wedi 17 munud diolch i gynnig Neil Ashton ar ôl gwaith da Danny Wright.

Doedd dim amheuaeth chwaith bod y tîm cartref yn haeddu bod yn gyfartal, a dyna ddigwyddodd wedi 33 munud pan sgoriodd Ben Tomlinson i unioni'r sgôr.

Cyfartal ar yr egwyl felly, ond roedd hi'n ymddangos bod gobeithion Wrecsam o godi i'r brig wedi diflannu wedi 52 o funudau pan welodd Danny Wright ei ail gerdyn melyn - ac felly un coch.

Ond brwydrodd y deg dyn yn ddewr i aros yn y gêm, a hynny er i Alfreton gael llawer mwy o ergydion at y gôl, a mwyafrif y meddiant.

Roedd rhaid aros tan 75 munud cyn i Wrecsam gael eu hail ergyd at y gôl, ond yn wyrthiol fe aeth y ddwy i gefn y rhwyd - Joe Clarke yn rhoi'r ymwelwyr ar y blaen.

Fe ddaliodd y deg dyn yn gadarn tan y chwib olaf i roi hwb go iawn i obeithion Wrecsam o esgyn i'r gynghrair bêl-droed y tymor nesaf.

Straeon perthnasol

  • Casnewydd 2-3 Woking