Her i Abertawe yn Llundain
- Cyhoeddwyd

Efallai nad Cwpan Capital One yw'r mwyaf deniadol o'r tlysau ar gael i'r prif glybiau pêl-droed ond mae rheolwyr Abertawe a Chelsea yn benderfynol o gyrraedd y rownd derfynol yn Wembley am resymau gwahanol.
Bydd cymal cyntaf y rownd gynderfynol nos Fercher yn gyfle i Michael Laudrup godi ei broffil yn uwch.
Eisoes mae'r gŵr o Ddenmarc yn arwr ar Stadiwm Liberty.
Pan adawodd Brendan Rodgers ar ddiwedd tymor cyntaf llwyddiannus yr Elyrch yn yr Uwchgynghrair, roedd rhai yn darogan tymor anodd i Abertawe.
Ond mae Laudrup wedi llywio'r tîm i hanner ucha'r tabl erbyn canol y tymor ac, wrth arwyddo Michu o Rayo Vallecano am £2m, bu'n gyfrifol am un o'r bargeinion gorau yn y farchnad drosglwyddo ers blynyddoedd.
Mae Laudrup yn benderfynol o arwain Abertawe i ennill un o'r prif gystadlaethau am y tro cyntaf yn hanes 100 mlynedd y clwb - rhywbeth sy'n bosib os byddan nhw'n llwyddo i guro Chelsea dros ddau gymal.
Dros dro?
I Rafa Benitez, rheolwr Chelsea, mae'n gyfle i gryfhau ei gais i aros yn bennaeth ar y Gleision.
Cafodd ei benodi yn dilyn diswyddo Roberto Di Matteo yn gynharach yn y tymor ond mae llawer yn ei ystyried yn rheolwr dros dro tan y daw cyfle i'r perchennog Roman Abramovich sicrhau gwasanaeth cyn reolwr Barcelona, Pep Guardiola.
Eisoes mae dau o garfan Chelsea - Jon Obi Mikel a Victor Moses - wedi gadael i chwarae yng nghystadleuaeth Cwpan Cenhedloedd Affrica ac fe fydd y golwr Petr Cech yn absennol oherwydd anaf.
Heblaw am Neil Taylor, a dorrodd ei goes yn gynnar yn y tymor, bydd Abertawe ar eu cryfaf ar gyfer y cymal cyntaf ond mae Laudrup eisoes wedi awgrymu mai Gerhard Tremmel fydd yn dechrau rhwng y pyst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd25 Medi 2012
- Cyhoeddwyd28 Awst 2012