Arestio wedi marwolaeth dyn 45 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn lleol 18 oed wedi cael ei arestio wedi marwolaeth dyn 45 oed ger Aberdâr.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn trin y farwolaeth fel achos o lofruddiaeth a'u bod wedi sefydlu ystafell ymchwilio.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i dŷ yn Heol Caerdydd, Aberaman, am 3.20am fore Mercher.
Maen nhw'n apelio ar unrhyw un oedd yn ardal Heol Caerdydd rhwng 2am a 3:20am fore Mercher, neu a welodd neu glywodd unrhyw beth amheus, i ffonio'r ystafell ymchwilio yng Ngorsaf Heddlu Canol Caerdydd ar 029 2052 7303.