Yr AC, Keith Davies, yn ôl yn ei waith
- Cyhoeddwyd

Aed ag AC Llanelli i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar Fedi 26.
Mae'r Aelod Llafur, Keith Davies, yn ôl yn y Cynulliad ar ôl iddo gael ceulad gwaed ar yr ymennydd.
Aed ag AC Llanelli i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar Fedi 26.
Cafodd ei ryddhau o Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd fis yn ddiweddarach heb orfod cael llawdriniaeth.
Cafodd y gwleidydd 71 oed ei ethol i gynrychioli Llanelli yn 2011 ar ôl trechu Helen Mary Jones, Plaid Cymru, o 80 o bleidleisiau.
Cyn hynny roedd yn gynghorydd sir yn cynrychioli ward Hengoed Llanelli rhwng 2004 a 2008.
Roedd yn gyfarwyddwr addysg yn Sir Gaerfyrddin a Morgannwg Ganol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2012