Cost morglawdd 'yn fwy na'i werth'

  • Cyhoeddwyd
Argraff artist o forglawdd hafrenFfynhonnell y llun, Eye on Wales
Disgrifiad o’r llun,
Byddai cynllun Corlan Hafren yn golygu adeiladu morglawdd am 11 milltir rhwng Bro Morgannwg a Gwlad yr Haf

Golyga'r gostyngiad sy'n debyg o ddigwydd yng nghost cynhyrchu ynni o wynt a llif y môr, fod y bwriad i godi morglawdd ar draws Afon Hafren yn ddiwerth, yn ôl mudiad amgylcheddol.

Mewn tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan, honnodd Cyfeillion y Ddaear Cymru fod y cynllun i godi'r morglawdd ar draws yr afon yn debyg o fod y cynllun drytaf o'i fath erioed, a bod y gost yn debyg o fod yn fwy na'r manteision.

Mae rhai eisoes wedi amcangyfrif fod y cynllun yn debyg o gostio £30biliwn.

Mae'r Ysgrifennydd Ynni, Ed Davey, eisoes wedi dweud fod y llywodraeth yn fodlon ystyried cynllun credadwy. Mi fyddai angen mesur seneddol arbennig yn y Senedd i ganiatáu'r gwaith.

"Ni fydd morglawdd yn tanio unrhyw beth cyn 2025. Does dim cyfiawnhad i ganiatáu chwalu amgylchedd naturiol," meddai Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb.

Mae cwmni ynni Hafren Power eioes wedi dweud eu bod nhw yn awyddus i godi morglawdd ac yn dweud eu bod wedi diwygio'r cynlluniau gwreiddiol gafodd eu gwrthod yn 2010.

Dadl Cyfeillion y Daear yw bod cost cynlluniau ynni amgen yn y dyfodol yn well bargen na chodi anghenfil fydd yn dinistrio'r amgylchedd.