'Angen cefnogaeth ar blant â chanser,' medd yr AS Mark Tami
- Cyhoeddwyd

Mae'r Aelod Seneddol Mark Tami yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod plant sy'n dioddef o ganser yn derbyn y gefnogaeth maen nhw eu hangen a chael addysg ychwanegol ar ôl iddyn nhw wella.
Siarad y mae Aelod Seneddol Alun a Glannau Dyfrdwy mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau.
Daw ei sylwadau ar ôl adroddiad yr elusen ganser i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, CLIC Sargent, am effaith canser ar addysg plant mewn ysgolion cynradd.
Yn ôl yr adroddiad, mae rhai'n cael eu bwlio, yn colli ffrindiau a ddim yn gwneud cymaint o waith ysgol â'u cyfoedion.
Fe gafodd mab y gwleidydd, Max, lewcemia bum mlynedd yn ôl pan oedd yn naw oed.
Bellach, mae wedi gwella ar ôl triniaeth cemotherapi dwys a thrawsblaniad cell fonyn.
'Ben i waered'
Treuliodd dros flwyddyn yn ôl ac ymlaen o'r ysbyty a sawl wythnos yn yr adran gofal dwys ar ôl i'w organau fethu.
Cyn y ddadl, dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur fod y diagnosis yn ofnadwy.
"Mi drodd ein byd ben i waered ...
"Mi ddechreuodd ei arennau fethu, yna ei iau a'i galon hefyd.
"Roeddem yn ofni ei fod yn mynd i ddioddef niwed i'r ymennydd ar un adeg ond mae wedi gwella."
Bellach mae ei fab yn yr ysgol uwchradd yn astudio TGAU a heb ddiodde' unrhyw effeithiau parhaol o'r salwch.
Dywedodd Mr Tami i'w fab gael profiad eithaf positif yn yr ysgol gynradd.
"Chafodd o ddim ei fwlio, na dim felly," meddai.
Argymhellion
"Mi wnaeth ei ffrindiau ysgol anfon cardiau iddo i gadw mewn cysylltiad.
"Roedd y derbyniad gafodd gan ei gyd-ddisgyblion a'i athrawon yn iawn ond mi gymerodd beth amser iddo ffitio i mewn i'r grŵp yr un oed ag o.
"Mi wnaethom ofyn i rywun ddod i'r ysgol - nyrs neu rywun o'r awdurdod lleol, ac mi wnaethon nhw egluro pethau i'r plant a'r athrawon, sy'n bwysig iawn dwi'n meddwl," ychwanegodd.
Mae'r Aelod Seneddol hefyd yn galw ar y llywodraeth i ymateb i argymhellion eraill adroddiad CLIC, gan gynnwys galwad am fwy o gyd-lynu rhwng ysgolion, ysbytai, tiwtoriaid yn y cartref a rhieni fel bod plant yn gallu symud o'r ysbyty i'r cartref ac yn ôl i'r ysgol yn haws.