Cwpan Capital One: Chelsea 0-2 Abertawe
- Published
Chelsea 0-2 Abertawe
Abertawe sydd â mantais o ddwy gôl ar ôl ennill cymal cyntaf rownd gynderfynol Cwpan Capital One yn erbyn Chelsea.
Daeth dwy gôl hwyr i'r Elyrch, un yn yr hanner cyntaf a'r ail yn y munudau ola'.
Er mai Abertawe enillodd yn Stamford Bridge, Chelsea oedd y meistri o ran y chwarae.
Fe wnaeth y tîm cartref greu sawl cyfle yn ystod y gêm ac fe wnaeth Gerhard Tremmel arbedion allweddol wrth i Abertawe amddiffyn.
Un cyfle greodd Abertawe yn yr hanner cyntaf, un cyfle ac un gôl a ddaeth saith munud cyn yr hanner.
Roedd Nascimento Ramires a Juan Mata wedi cael sawl cyfle i roi Pencampwyr Ewrop ar y blaen.
Camgymeriadau
Ond Miguel Michu wnaeth ganfod y rhwyd ar ôl camgymeriad gan Branislav Ivanovic oedd wedi cael cyffyrddiad gwael.
Doedd 'na ddim gobaith i gôl-geidwad Chelsea, Ross Turnbull, wrth i'r gôl ddod yn erbyn llif y chwarae.
Dyma 16eg gôl Michu y tymor yma.
Wedi sawl cyfle yn yr ail hanner, methu manteisio wnaeth Chelsea.
Ac fe ddaeth ail gyfle Yr Elyrch funud wedi'r 90 a Danny Graham yn cymryd y cyfle.
Unwaith eto, camgymeriad Ivanovic oedd yn ceisio pasio'r bêl i'w geidwad, yn rhoi cyfle i'r eilydd fynd heibio'r golwr.
Dyma bedweredd gêm Graham mewn pedair gêm.
Roedd 'na gyfle hwyr i Chelsea gael gôl wrth i Demba Ba ganfod cefn y rhwyd ond roedd yn cam-sefyll.
Gydag Abertawe heb ildio gôl fe fydd yn rhoi hyder i'r ymwelwyr a fydd croesawu Chelsea i Stadiwm Liberty ymhen pythefnos ar gyfer yr ail gymal.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Ionawr 2013
- Published
- 12 Rhagfyr 2012
- Published
- 31 Hydref 2012
- Published
- 25 Medi 2012
- Published
- 28 Awst 2012