Pryderon am rhyddhau llofrudd Joanne Tregembo
- Cyhoeddwyd

Mae nifer o aelodau seneddol wedi cyflwyno cynnig yn Nhŷ'r Cyffredin sy'n sôn am bryderon teulu merch gafodd ei llofruddio.
Fe gafodd Joanne Tregembo ei lladd gan Adam Fury yn Abertawe, ac fe gafodd yntau ddedfryd o garchar am oes yn 1996 am ei llofruddio.
Roedd hi wedi cael ei thrywanu sawl gwaith a'i churo gyda morthwyl.
Er bod y barnwr bryd hynny wedi dweud ei fod yn ystyried Fury i fod yn fygythiad mawr i'r cyhoedd, mae Fury yn ddiweddar wedi cael ei symud i garchar agored.
Mae teulu Ms Tregembo yn teimlo fod hynny'n cynyddu'r posibilrwydd y bydd yn cael ei rhyddhau ar drwydded.
Cynnig
Yr Aelod Seneddol Martin Caton sydd wedi cyflwyno'r cynnig yn San Steffan gyda Geraint Davies, Chris Evans, Jonathan Evans, Hywel Francis a Sian James hefyd yn noddi'r cynnig, sy'n dweud:
- "(Cynigiwn) Bod y Tŷ yn cofio am lofruddiaeth giaidd, ragfwriadol ac estynedig Joanne Tregembo (20 oed) gan Adam Campbell Fury yng Nghymru ar Fai 6, 1995;
- yn nodi bod Fury wedi cael ei ddedfrydu ar Fehefin 14, 1996, gyda'r barnwr yn dweud wrth grynhoi'r achos "os fydd unrhyw un ymhen blynyddoedd i ddod yn ystyried ei rhyddhau fe ddylen nhw ddarllen trawsgrifiad yr achos yn ofalus iawn" gan ei fod yn ystyried bod Fury yn fygythiad nawr i'r cyhoedd;
- yn ymwybodol bod Fury wedi trin y teulu gyda dirmyg gydol yr achos ac wedi datgan ei gasineb tuag at fam a thad Joanne Tregembo ers hynny;
- yn deall a chydymdeimlo gyda'r pryderon am eu diogelwch eu hunain ac eraill gan aelodau'r teulu Tregembo yn dilyn symud llofrudd ei merch i garchar agored, gan gynyddu posibilrwydd o'i rhyddhau ar barôl;
- yn cadarnhau na ddylid rhyddhau unrhyw garcharor sy'n euog o lofruddiaeth os fyddai hynny yn peri risg i unrhyw aelod o'r cyhoedd.