Nyrs yn ennill rhan o achos
- Cyhoeddwyd

Mae cyn nyrs yn adran belydr-X Ysbyty Maelor Wrecsam wedi ennill rhan o'u hachos mewn tribiwnlys diwydiannol yn erbyn ei chyn gyflogwyr.
Roedd Alison Hughes, sy'n diodde' o glefyd Parkinson's, wedi cyhuddo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o wahaniaethu yn ei herbyn ar sail anabledd, ac o'i diswyddo ar gam gan ei haflonyddu a'i herlid.
Cynhaliwyd y gwrandawiad ym mis Tachwedd, ac fe gafodd y feirniadaeth ei chyhoeddi ddydd Iau.
Penderfyniad y panel oedd bod y Bwrdd wedi aflonyddu ar Ms Hughes oherwydd ei hanabledd, ond nad oedd wedi ei herlid. Does dim penderfyniad hyd yma am ei honiadau o gael ei diswyddo ar gam.
Rôl newydd
Clywodd y gwrandawiad bod Ms Hughes wedi dechrau nyrsio yn 1981 gan godi i swydd prif nyrs.
Cafodd wybod fod ganddi glefyd Parkinson's yn 2003, ac wedi asesiad iechyd fe gafodd ei symud o'u dyletswyddau clinigol.
Roedd ei rôl newydd i fod i gynnwys datblygiad radioleg, rheoli stoc a chynorthwyo gweithdrefnau nyrsio, ac fe gafodd wybod y byddai'n derbyn cefnogaeth.
Ond mynnodd Ms Hughes nad hynny oedd ei gwaith, a bod ei rheolwr wedi gofyn iddi fwy nag unwaith i symud rhwystrau o goridorau ac ar un achlysur i symud dodrefn.
Ychwanegodd bod y gwaith o drefnu hyfforddiant staff a gwirio stoc wedi diflannu o'i rôl, a bod y rheolwr yn gwylio am unrhyw ddirywiad yn ei chyflwr.
'Teimlo'n israddol'
Roedd y Bwrdd Iechyd yn gwadu'r holl gyhuddiadau, ac ategu hynny wnaeth y rheolwr ar y pryd, Helen Hughes, sydd bellach yn bennaeth Safon a Rheolaeth yn yr uned Pelydr-x.
Yn y feirniadaeth, dywedodd y tribiwnlys cyflogaeth bod Helen Hughes a chydweithwyr eraill wedi "ymdrechu i gefnogi'r hawlydd o 2005 ymlaen".
Ond ychwanegodd y panel bod Alison Hughes "yn teimlo'n israddol yn ei swydd newydd gyda phob cyfiawnhad.
"Roedd wedi bod mewn safle o awdurdod dros staff nyrsio eraill, ond roedd bellach wedi cael ei gadael i wneud tasgau bôn braich ac yn teimlo bod ei chydweithwyr yn chwilio am arwyddion o ddirywiad yn ei chyflwr."
Ychwanegodd y panel bod teimladau Alison Hughes o aflonyddwch wedi gwaethygu pan ddechreuodd yr achos yn erbyn ei chyflogwyr.