Dod o hyd i 500,000 o sigaréts
- Published
Mae dau wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wedi i swyddogion tollau tramor ddod o hyd i 500,000 o sigaréts a channoedd o watshis ffug ger canol Pen-y-bont.
Daethpwyd o hyd i £6,000 mewn cerbyd.
Cafodd dyn 50 oed o Bencoed a dyn 57 oed o Birmingham eu harestio cyn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.