Bayonne 25-22 Dreigiau
- Cyhoeddwyd

Cais y Cymro, Mike Phillips, seliodd fuddugoliaeth Bayonne yn erbyn y Dreigiau yn Ne Ffrainc nos Iau.
Roedd hyn yn dorcalonnus i'r Dreigiau wedi eu hymdrech arwrol.
Yn yr hanner cynta' sgoriodd capten y Dreigiau, Lewis Evans, wedi fflach o ysbrydoliaeth.
Roedd y Dreigiau wedi dechrau'n betrusgar cyn magu hunanhyder ac olwyr y Ffrancod yn aml yn ling-di-long.
Am ran fwya'r ail hanner llwyddodd y Cymry i wrthsefyll her gorfforol y Ffrancod ond yn y pen draw roedd y tanc yn wag.
Yn anodd
Roedd hyfforddwr y Cymry Darren Edwards wedi dweud y byddai'r gêm yng Nghwpan Amlin yn anodd bum niwrnod ers colli i Connacht.
"Mae angen egni a chanolbwyntio.
"Y gêm yn erbyn Connacht oedd y drydedd o fewn 10 diwrnod ac roedd hynny'n amlwg yn ystod y 30 munud gynta'.
"Yn sicr, mae gêm yn Stade Jean Dauger yn Ne Ffrainc ar nos Iau yn heriol."
Collodd y Dreigiau 22-19 gartre' yn erbyn Bayonne ym mis Hydref.
Timau
Bayonne: Sam Gerber; Gabriele Lovobalavu, Thibault Lacroix, Lionel Mazars (capten), Bastien Fuster; Jacques-Louis Potgieter, Guillaume Rouet; Pierre-Philippe Lafond, Anthony Etrillard, Renaud Boyoud, Rob Linde, Matt Graham, Abdellatif Boutaty, Jean Jo Marmouyet, Marc Baget-Rabarou.
Eilyddion: David Roumieu, Nemiah Tialata, Marc Legras, Dewald Senekal, Julien Puricelli, Mike Phillips, Manu Ahotaeiloa, Matthieu Ugalde.
Dreigiau: Tom Prydie; Will Harries, Adam Hughes, Andy Tuilagi, Mike Poole; Steffan Jones, Jonathan Evans; Owen Evans, Hugh Gustafson, Nathan Buck, Adam Jones, Rob Sidoli, Jevon Groves, Lewis Evans (capten), Ieuan Jones.
Eilyddion: Sam Parry, Nathan Williams, Tim Ryan, Andrew Coombs, Toby Faletau, Wayne Evans, Ashley Smith, Jack Dixon.
Dyfarnwr: Andrew Small (Lloegr)
Y gic gynta': 7.45pm
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2012
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2011
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2011