Cyngor Ceredigion yn ystyried tro pedol ar bolisi cau ysgolion
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion adran addysg Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn i gabinet y cyngor newid meddwl ynglŷn â'i pholisi o beidio cau ysgolion gyda dros 20 o blant ar y gofrestr.
Ond ddydd Mawrth bydd y cabinet yn ystyried cais gan yr adran addysg i archwilio'r posibilrwydd o greu ysgol ardal newydd ar dir niwtral yn ardal Drefach, rhwng Llanbed a Llanybydder.
Byddai hyn yn golygu cau tair ysgol sydd â dros 30 o blant ar y gofrestr, sef ysgolion Cwrtnewydd, Llanwnnen a Llanwenog.
Yn ôl yr adroddiad "mae'n deg dweud fod yr adborth o'r ymarfer ymgynghori'n dangos bod y cynnig hwn wedi hollti barn o fewn y cymunedau a effeithir".
"Ar ôl ystyried yr wybodaeth bellach a gasglwyd a'r safbwyntiau a fynegwyd drwy'r broses ymgynghori barn broffesiynol yr adran addysg a gwasanaethau cymunedol yw mai creu ysgol ardal yw'r opsiwn gorau o hyd ar gyfer yr ardal," medd yr addroddiad.
Yn ôl yr adroddiad:
- Byddai'r disgyblion yn cael eu haddysgu mewn cyfleusterau mwy addas sydd mewn gwell cyflwr;
- Byddai isadeiledd ardaloedd addysg Ceredigion yn fwy effeithlon gyda llai o leoedd dros ben;
- Mae ysgolion ardal yn opsiwn deniadol i rieni. Byddai'r cynnig yn gymorth i ddiogelu addysg mewn ardal wledig.
Mae nifer y disgyblion yng Ngheredigion wedi gostwng o 10,695 yn 2001 i 9,655 yn 2012.
Yn ôl y cyngor, mae 'na 1,436 o lefydd gwag mewn 54 ysgol gynradd yn y sir.
Yn ôl adroddiad aeth gerbron y cabinet yn 2012, mae yna gyfalaf o £2.22 miliwn ar gyfer y cynllun i greu'r ysgol ardal i'w ariannu gan "dderbynebau cyfalaf a benthyca darbodus".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2011