Ailwampio neuadd farchnad Aberystywth ar gost o £350,000
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun gwerth £350,000 yn anelu at adnewyddu Neuadd y Farchnad yn y Stryd Fawr yn Aberystwyth.
Y nod yw adnewyddu'r stondinau presennol a chodi rhai newydd yng nghefn yr adeilad.
Bydd y gwaith yn dod i ben ym mis Ebrill 2013 a'r bwriad yw "creu lle brafiach ar gyfer siopa a masnachu".
Yn y cyfamser, mae'r rhan fwya' o fasnachwyr wedi symud dros dro i'r siop wag yn Ffordd y Môr yn hen safle siop Boots.
Bydd pedair uned, yn cael eu hariannu gan Cynnal y Cardi drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig, ar gael i fusnesau sy'n dymuno gwerthu nwyddau.
Hefyd bydd gwasanaeth mentora'n eu helpu i symud i stondin yn y neuadd neu siop wag yng nghanol y dref.
Adfywio
Mae'r adnewyddu yn rhan o gynllun ehangach i adfywio Aberystwyth, ac ynghyd â'r cynigion i ailwampio sgwâr Tŵr y Cloc, y nod yw denu mwy o bobl yn ôl i ben uchaf y Stryd Fawr.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddatblygu Economaidd, Datblygu Cymunedol, Hamdden a Diwylliant: "Dyma enghraifft dda o weithio mewn partneriaeth, gyda masnachwyr y farchnad a'r cyngor sir yn cydweithio i reoli'r prosiect, gan achosi cyn lleied o drafferth â phosib i'r busnesau.
"Bydd y cyllid ar y cyd yn darparu neuadd farchnad newydd sbon ac unedau deori i annog pobl i ddechrau busnesau yn y dre'."
Straeon perthnasol
- 16 Tachwedd 2011