BBC Cymru Fyw

Pobl leol yn sefydlu mudiad wedi tirlithriad Ystalyfera

Published
image captionLlithrodd miloedd o dunelli o bridd yn ardal Pant-teg

Roedd 50 o bobl o ardal Ystalyfera, Cwm Tawe, mewn cyfarfod cyhoeddus yn y neuadd gymunedol nos Iau wrth sefydlu cymdeithas drigolion yn sgil tirlithriad.

Dywedodd rhai nad oedd mudiad tebyg ar ôl tirlithriad blaenorol wedi bod yn effeithiol iawn.

Ond dywedodd cadeirydd y cyngor cymunedol, Geraint Williams, y gallai'r mudiad lobïo'r cyngor sir.

"Bydd gofyn cwestiynau am ddiogelwch yn flaenoriaeth," meddai.

Mae'r cyngor yn cynnal cyfarfod mewnol ddydd Gwener lle bydd pob adran sy'n gysylltiedig â'r tirlithriad yn trafod y sefyllfa.

Ar Ragfyr 22, llithrodd miloedd o dunelli o bridd yn ardal Pant-teg oherwydd glaw.

Bu'n rhaid i drigolion 13 o gartrefi symud ac mae wyth o deuluoedd wedi eu cynghori i beidio â dychwelyd tra bod peirianwyr yn asesu'r sefyllfa.

Pryderon

media captionAdroddiad Rebecca Hayes

Roedd y cyngor wedi clirio'r ardal cyn y Nadolig wedi pryderon rhai trigolion.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae peirianwyr arbenigol wedi bod yn archwilio.

"Mae'r sefyllfa'n ansefydlog ac roedd pryder am y tir sy' ddim wedi symud.

"Felly mae angen archwilio er mwyn gwybod beth yn gymwys yw'r sefyllfa."

Dywedodd y dylai pawb gadw draw o'r ardal dan sylw oherwydd risg tirlithriad arall er bod gwaith diogelwch wedi ei gyflawni.

Straeon perthnasol

  • Tywydd: 'Byddwch yn wyliadwrus'