Gwadu lladd teulu wedi tân mewn tŷ
- Cyhoeddwyd

Carl Mills yn cyrraedd y llys ddydd Gwener
Mae dyn 28 oed ar gyhuddiad o ladd tair cenhedlaeth o'r un teulu wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mewn gwrandawiad a barodd 10 munud yn Llys y Goron Caerdydd fe blediodd Carl Mills yn ddieuog i dri chyhuddiad o lofruddiaeth.
Mae wedi ei gyhuddo o ladd y fam-gu Kim Buckley, 46 oed, ei merch Kayleigh, 17 oed, a'i merch hithau, Kimberley Buckley, oedd yn chwe mis oed.
Cafodd eu cyrff eu darganfod wedi tân yn eu cartre' yng Nghwmbrân pan gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ yn Tillsland ar stad Coed Efa yn oriau mân Medi 18.
Clywodd y diffynnydd, oedd yn gwisgo siwmper dywyll a throwsus llwyd, y byddai yn y ddalfa tan fydd ei achos yn dechrau ar Fehefin 24.
Straeon perthnasol
- 25 Hydref 2012
- 21 Medi 2012
- 19 Medi 2012
- 20 Medi 2012