Cyhoeddi enw menyw fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau enw menyw 41 oed fu farw ar Ionawr 7.
Cafwyd hyd i gorff Sarah Ann Holmes, menyw leol, ger y maes parcio aml -lawr yn Llanelli tua 1.45pm.
Mae cwest i'w marwolaeth wedi'i agor a'i ohirio.
Cafodd rhan o Stryd Murray yn y dref ei chau am oriau wrth i'r heddlu ymchwilio.