Cyhuddo dyn 51 oed o geisio llofruddio wedi ymosodiad yn Aberteifi

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 51 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio dyn yn Aberteifi.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y dyn wedi ei gyhuddo ar ôl ymosodiad difrifol ar ddyn 42 oed yn Stryd y Castell nos Fercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 10.45pm.

Mae disgwyl i'r dyn ymddangos o flaen Ynadon Llanelli ddydd Gwener.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol