Dyn ar goll: Achos o lofruddiaeth
- Published
Mae'r heddlu sy'n chwilio am ddyn 24 oed o Drecelyn ger Caerffili wedi dweud eu bod yn ymchwilio i lofruddiaeth.
Cafodd dyn 27 oed o ardal y Coed Duon ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Kyle Vaughan.
Y tro diwethaf i Mr Vaughan gael ei weld oedd nos Sul, Rhagfyr 30 yn ardaloedd Abercarn a'r Rhisga.
Cafwyd hyd i'w gar, Peugeot 306 arian, tua 11:45pm y noson honno ar yr A467 rhwng Rhisga a Cross Keys.
Cadwyn aur
Y gred yw bod y car wedi bod mewn damwain ac mae'r heddlu'n apelio at unrhywun welodd y cerbyd i gysylltu â nhw.
Dywedodd yr heddlu fod Mr Vaughan yn denau, yn bum troedfedd wyth modfedd o ran taldra, gyda gwallt du byr a llygaid brown.
Roedd e'n gwisgo cadwyn aur â chroes arni a chanddo datŵ ar ei fraich chwith.
Dywedodd Ditectif Uwcharolygydd Peter Jones: "Mae Kyle wedi bod ar goll ers 12 diwrnod.
"Rydym wedi chwilio amdano mewn nifer o leoliadau yn ystod yr wythnos diwethaf."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.