Y ci a'r pasport

  • Cyhoeddwyd
Buster the puppy and the chewed passportFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Ni fydd Jason Tovey na'i gi yn teithio gyda'r Gleision i wynebu Toulon ddydd Sadwrn

Mae un o sêr rhanbarth rygbi'r Gleision wedi gorfod tynnu nôl o'r gêm bwysig yng Nghwpan Heineken dros y penwythnos gan fod ei gi wedi bwyta ei basport.

Roedd y maswr Jason Tovey wedi paco ei fag ac yn barod i fynd i'r maes awyr ar gyfer y daith i wynebu Toulon yn Ffrainc - ond yna daeth o hyd i'w basport.

Dywedodd ei fod ag ofn dweud wrth ei hyfforddwr na fyddai'n medru chwarae yn y gêm bwysig ddydd Sadwrn.

"Mae'n swnio fel yr hen esgus am beidio gwneud gwaith cartref yn yr ysgol," meddai Tovey, 23 oed.

'Sanau neu 'sgidiau'

Roedd ci labrador y chwaraewr, Buster, wedi gadael ôl ei ddannedd ar y pasport, sydd bellach yn llawn tyllau.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Jason Tovey yn gorfod gwylio'r gêm ar y teledu

Ychwanegodd Tovey: "Mae Buster yn cnoi rhywbeth o hyd, ond fel arfer fy sanau neu 'sgidiau sy'n ei chael hi.

"Cyn gynted ag y gwelais i'r pasport roeddwn i'n gwybod na fyddwn i'n medru mynd drwy'r sustem ddiogelwch yn y maes awyr.

"Roedd gen i ofn dweud wrth yr hyfforddwr - doeddwn i ddim yn meddwl y byddai unrhyw un yn fy nghredu i."

Yn hytrach na wynebu tîm Jonny Wilkinson, fe fydd Tovey nawr yn gorfod gwylio'r gêm ar y teledu, ac fe fydd rhaid i ddo wario £103 ar basport newydd ar gyfer gêm dramor nesaf y Gleision.

Dywedodd llefarydd ar ran rhanbarth y Gleision: "Fe ffoniodd Jason i ddweud beth oedd wedi digwydd - mae e wedi pechu!"