Abertawe: Cyn chwaraewr canol cae wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae cyn chwaraewr canol cae clwb pêl-droed Abertawe, Geoff Thomas, wedi marw yn 64 mlwydd oed.
Sgoriodd 52 gôl mewn 357 gêm i'r Elyrch rhwng 1965 a 1976.
Bu'n gapten Tîm bechgyn Abertawe ar ddechrau ei yrfa, cyn ymuno ag Abertawe fel un o brentisiaid cyntaf y clwb.
Roedd yn aelod pwysig o garfan y rheolwr Roy Bentley, gan sgorio 11 gôl pan enillodd yr Elyrch ddyrchafiad i'r drydedd adran yn 1970.
'Chwaraewr dylanwadol'
Cynrychiolodd Cymru ar lefelau ieuenctid a dan-23 a threuliodd gyfnod byr ar fenthyg gyda Manchester United yn ystod yr 1970au.
Wedi iddo ymddeol, bu'n aelod brwd o dîm criced Y Mwmbwls a bu'n ofalwr maes i'r clwb hwnnw am gyfnod.
Dywedodd cadeirydd clwb pêl-droed Abertawe, Huw Jenkins: "Mae wastad yn drist colli aelod o deulu'r Elyrch, yn enwedig ar ôl iddynt roi gymaint i'r clwb fel chwaraewr.
"Roedd yn chwaraewr dylanwadol am nifer o flynyddoedd ac roedd yn aelod adnabyddus o'r gymuned wrth iddo chwarae yng nghynghrair leol Abertawe ar ôl rhoi'r gorau i chwarae dros y ddinas.
"Rydym yn cydymdeimlo gyda'i deulu a'i ffrindiau."
Dywedodd ffrind agos Mr Thomas, John Blyth o Glwb Criced y Mwmbwls: "Roedd yn un o chwaraewyr chwedlonol clwb Abertawe ac roedd pawb yn ei hoffi."
Straeon perthnasol
- 12 Ionawr 2013
- 9 Ionawr 2013
- 9 Ionawr 2013
- 12 Rhagfyr 2012
- 31 Hydref 2012
- 25 Medi 2012
- 28 Awst 2012