Prestatyn yn ail wrth i Fangor faglu

Uwchgynghrair Cymru Image copyright Not Specified

Prestatyn sydd wedi codi i'r ail safle yn Uwchgynghrair Cymru yn dilyn gemau nos Wener, wrth i Fangor faglu oddi cartref yn Y Bala.

Cei Connah 3-3 Prestatyn

Yng Nghei Connah, roedd y tîm cartref angen buddugoliaeth er mwyn ceisio sicrhau lle yn y chwech uchaf ar ddiwedd hanner cynta'r tymor, ac fe aethon nhw ar y blaen diolch i Rhys Healy.

Ond yn ôl y daeth Prestatyn gyda goliau gan Anthony Stephens ac Andy Parkinson - y ddwy o fewn tri munud i'w gilydd - i fod ar y blaen ar yr egwyl, ond ddim cyn i Daniel Forde o Gei Connah gael ei hel o'r maes ar ôl gweld y cerdyn coch.

Mae tymor Prestatyn wedi bod yn llawn anghysondeb, ac fe fanteisiodd Cei Connah ar flerwch i'w gwneud hi'n gyfartal eto wedi 59 munud wrth i Chris Rowntree sgorio.

Bu'n rhaid gohirio'r gêm am ugain munud yn yr ail hanner yn dilyn anaf difrifol i golwr yr ymwelwyr, Jon Hill-Dunt. Doedd dim golwg arall ar y fainc, felly fe aeth Neil Gibson i'r gôl am y 10 munud olaf.

Roedd mwy o ddrama yn yr amser gafodd ei ychwanegu am yr anaf. I ddechrau fe aeth Prestatyn ar y blaen wrth i Andy Parkinson sgorio'i ail yn y gêm wedi 92 munud.

Ond gydag eiliadau yn weddill, a 102 o funudau ar y cloc, fe efelychodd Rhys Healy y gamp gan ddod â Chei Connah'n gyfartal unwaith eto.

Bala 2-1 Bangor

Dechreuodd pethau'n dda i Fangor yn y Bala gyda Dave Morley yn eu rhoi nhw ar y blaen wedi 14 munud.

Ond cyn yr egwyl roedd hi'n gyfartal wrth i Kenny Lunt sgorio i'r Bala, a'r tîm cartref aeth ar y blaen wedi 73 munud diolch i gynnig Mark Jones.

Oherwydd y fuddugoliaeth, mae'r Bala yn dal i obeithio y byddan nhw yn gorffen yn y chwech uchaf hefyd, ac mae posibilrwydd o hyd y bydd pump o dimau'r gogledd yn y chwech ucha.

(Dydd Sadwrn) Aberystwyth 1-0 Airbus UK Brychdyn

Roedd un gôl yn ddigon i Aberystwyth gipio'r triphwynt yn erbyn Airbus UK Brychdyn yn unig gêm ddydd Sadwrn.

Mae'r canlyniad yn rhoi Aber yn gyfartal ar bwyntiau gyda'r Drenewydd a'r Bala, ac yn gadael Llanelli yn y ddau safle isaf yn y tabl.

Mae'r pwyntiau hefyd yn cadw gobeithion Aberystwyth o orffen yn y chwech uchaf cyn ail hanner y tymor yn fyw, ond fe fydd rhaid iddyn nhw ennill eu gêm olaf oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn nesaf.

Trefn gemau a chanlyniadau Uwchgynghrair Cymru - Tymor 2012/13
ABR AFA AIR BAL BAN CAR CCN LLA DRE PTT PRT YSN
Aberystwyth 4-2 1-0 1-1 0-0 1-0 3-0 0-2 0-2 0-5 4-1 1-4
Lido Afan 0-0 1-5 1-0 2-3 2-1 2-1 Ion.19 2-3 0-3 2-4 1-3
Airbus 5-1 Gohiriwyd 1-0 2-3 1-2 2-2 1-1 2-1 5-0 5-0 2-1
Bala 3-2 3-2 0-2 2-1 3-0 Ion.19 1-2 4-4 2-0 1-2 2-2
Bangor 7-1 4-1 2-0 5-0 2-2 2-1 1-2 3-0 Ion.19 1-4
Caerfyrddin 2-0 1-1 2-1 1-1 0-1 2-4 1-0 Ion.19 1-0 2-2 0-0
Cei Connah 1-2 6-2 4-1 0-1 2-6 1-1 3-1 2-1 2-0 3-3 1-3
Llanelli 0-0 3-2 1-4 2-2 4-2 1-6 0-3 0-1 2-2 0-6
Drenewydd 3-1 1-2 1-7 1-1 3-2 1-2 1-3 1-1 1-1 1-4 1-1
Port Talbot 2-4 6-1 4-4 2-1 1-1 2-1 6-1 1-2 1-0 1-0 1-3
Prestatyn 2-2 4-2 Ion.19 1-0 3-3 7-1 4-1 3-1 2-5 1-1 1-0
Seintiau Ion.19 2-1 1-0 1-0 3-0 0-3 5-1 0-0 0-1 5-0 4-1

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.