Ymchwilio i farwolaeth mewn ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn 56 oed mewn ysbyty nos Wener.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach am 6.10pm.
Roedd y dyn o ardal Caerffili a dywedodd yr heddlu nad oedd yr amgylchiadau'n amheus.