Chwalfa i'r Gleision yn Ffrainc yng Nghwpan Heineken

  • Cyhoeddwyd
Maxime MermozFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Maxime Mermoz yn sgorio cais i'r Ffrancod

Toulon 45-25 Gleision

Roedd pwysau'r Ffrancod yn ormod i'r Gleision yn Stade Felix Mayol.

Sgoriodd Wulf, Chiocci, Orioli, Mermoz, Palisson, Bastareaud a Fresia geisiadau i'r tîm cartre' a throsodd Wilkinson bedair gwaith.

Sgoriodd Leigh Halfpenny ddau gais. Trosodd un a chiciodd gic gosb.

Cafodd y Ffrancod sioc pan sgoriodd Halfpenny o fewn 10 munud ond o hynny ymalen roedd y traffig yn un-ffordd.

Ar ddechrau'r ail hanner roedd Toulon ar dân wrth i'r canolwyr, Maxime Mermoz a Mathieu Bastareaud, a'r asgellwr, Alexis Palisson, sgorio.

Dau gais cysur

Cafodd Cuthbert a Halfpenny ddau gais cysur.

Hon oedd gêm gynta' Halfpenny ers iddo anafu ei wddf yn y gêm ryngwladol yn erbyn Awstralia a gêm gynta' Alex Cuthbert ers iddo anafu ei wyneb.

"Yn gorfforol rydyn ni mewn safle cryf," meddai Phil Davies, Cyfarwyddwr Rygbi Caerdydd cyn yr ornest.

"Mae ein cynnydd ni ers mis Mehefin wedi bod yn drawiadol ..."

Tra bod Toulon ar frig Grŵp 6 mae'r Gleision ar y gwaelod gydag un pwynt.

Toulon: Delon Armitage, Rudi Wulf, Mathieu Bastareaud, Maxime Mermoz, Alexis Palisson, Jonny Wilkinson (capten), Frédéric Michalak, Chris Masoe, Steffon Armitage, Pierrick Gunther, Nick Kennedy, Jocelino Suta, Carl Hayman, Jean-Charles Orioli, Xavier Chiocci.

Eilyddion: Sébastien Bruno, Florian Fresia, Simon Shaw. Davit Kubriashvili, Joe Van Niekerk, Matt Giteau, David Smith, Nicolas Durand.

Gleision: Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Gavin Evans, Jamie Roberts, Harry Robinson, Rhys Patchell, Lewis Jones; Sam Hobbs, Rhys Williams, Beniot Bourrust, James Down, Lou Reed, Josh Navidi (capten), Sam Warburton, Robin Copeland.

Eilyddion: Kristian Dacey, Nathan Trevett, Scott Andrews, Macauley Cook, Luke Hamilton, Gareth Davies, Ceri Sweeney, Owen Williams