Everton 0-0 Abertawe
- Published
Everton 0-0 Abertawe
Fe weithiodd Abertawe'n ddiflino, yn enwedig yn yr ail hanner, wrth ddiogelu pwynt yn erbyn Everton.
Abertawe yw'r tîm cynta' i rwystro Everton rhag sgorio'r tymor hwn.
Yn y funud gynta' ergydiodd Marouane Fellaini ond arbedodd Michel Vorm yn rhwydd.
Ar ôl wyth munud saethodd Nikica Jelavic o fewn y cwrt cosbi ond aeth y bêl heibio'r postyn chwith.
Chwe munud yn ddiweddarach ar ôl cic gornel Leighton Baines ergydiodd Nikica Jelavic ond llwyddodd Dwight Tiendalli i glirio.
Wedyn arbedodd Tim Howard ergyd Michu. Ar ôl cic gornel Sung-Yeung Ki llwyddodd Nikica Jelavic rywsut i glirio.
Ddwy funud yn ddiweddarach ergydiodd Marouane Fellaini ond arbedodd Michel Vorm.
Pwynt penigamp i Abertawe sy'n nawfed yn y tabl.
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Ionawr 2013
- Published
- 9 Ionawr 2013
- Published
- 12 Rhagfyr 2012
- Published
- 31 Hydref 2012
- Published
- 25 Medi 2012
- Published
- 28 Awst 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol