Lincoln 2-4 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed CasnewyddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae Casnewydd yn ail gyda 49 o bwyntiau

Ar ôl 21 munud rhwydodd Aaron O'Connor gôl gynta'r Cymry o du allan i'r cwrt cosbi.

Chwarter awr yn ddiweddarach rhwydodd eto, y tro hwn o du mewn y cwrt cosbi.

Robbie Willmott, sy' newydd symud o Gaergrawnt, sgoriodd y drydedd.

Peniodd Vadaine Oliver i'r tîm cartre' cyn i Willmott sgorio ei ail wedi chwarae deheuig Christian Jolley.

Yn yr ail hanner sgoriodd Chris Bush yn sgil pwysau'r tîm cartre'.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol