Leinster 33-14 Scarlets

Rob Kearney
Image caption Rob Kearney: Cais gwefreiddiol

Leinster 33-14 Scarlets

Sgoriodd Leinster bum cais a sicrhau pwynt bonws yng Ngrŵp 5 y Cwpan Heineken yn yr RDS yn Nulyn.

Yn yr hanner cynta' sgoriodd Cian Healy, Shane Jennings a Luke Fitzgerald geisiadau ac ychwanegodd Rob Kearney ac Ian Madigan ddau yn yr ail hanner.

Trosodd Jonathan Sexton deirgwaith a throsodd Madigan ar ôl ei gais ei hun.

Sgoriodd Liam Williams gais a chicio cic adlam i'r ymwelwyr a chiciodd Aled Thomas ddwy gic gosb.

Yn aml roedd grym sgrym pencampwyr y cwpan, Leinster, yn drech na'r Scarlets a hyn arweiniodd at drydydd cais y Gwyddelod, Luke Fitzgerald yn deifio i mewn i'r gornel oherwydd bwlch unwaith eto yn amddiffyn y Scarlets.

Ar ôl dim ond pedair munud yn yr ail hanner sgoriodd Kearney bedwerydd cais ei dîm. Roedd pas gyfareddol Jamie Heaslip yn allweddol cyn i Kearney osgoi sawl tacl a sgorio ei 16ed gais yng Nghwpan Heineken.

Tra bydd Leinster yn wynebu Caerwysg bydd y Scarlets, sy' ar waelod y tabl heb ennill gêm, yn wynebu Clermont, sy' wedi cyrraedd y rownd gogynderfynol.

Timau

Leinster: Rob Kearney, Isa Nacewa, Fergus McFadden, Gordon D'Arcy, Luke Fitzgerald, Jonathan Sexton, Isaac Boss; Cian Healy, Sean Cronin, Mike Ross, Leo Cullen (capten), Devin Toner, Sean O'Brien, Shane Jennings, Jamie Heaslip.

Eilyddion: Aaron Dundon yn lle Cronin (63), Heinke van der Merwe yn lle Healy (41), Michael Bent yn lle Ross (72), Tom Denton yn lle Cullen (65), Rhys Ruddock yn lle Jennings (58), Eoin Reddan y lle Boss (54), Ian Madigan yn lle Sexton (72), Brian O'Driscoll yn lle Fitzgerald (62).

Scarlets: Liam Williams, Andy Fenby, Gareth Maule, Scott Williams, Kristian Phillips, Aled Thomas, Tavis Knoyle; Phil John, Ken Owens, Jacobie Adriaanse, George Earle, Richard Kelly, Sione Timani, Josh Turnbull, Rob McCusker (capten).

Eilyddion: Matthew Rees yn lle Owen (63), Rhodri Jones yn lle John (63), Samson Lee yn lle Adriaanse (49), Tomas Vallejos yn lle McCusker (59), Gareth Davies yn lle Knoyle (49), Jonathan Davies yn lle Maule (41), Adam Warren yn lle L Williams (54).

Y dorf: 18,500

Y dyfarnwr: Jerome Garces (Ffrainc)