Caerfyrddin yn dathlu ennill Cwpan Word Cymru
- Cyhoeddwyd

Caerfyrddin oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cwpan Word Cymru.
Fe lwyddon nhw i faeddu'r Seintiau Newydd ym Mharc Latham yn Y Drenewydd.
Y Seintiau oedd y ffefrynnau ond nid oedden nhw'n disgwyl camp eilydd Caerfyrddin, Corey Thomas, yn yr ail hanner.
Roedd hi'n 3-3 ar ddiwedd y gêm ac roedd angen ciciau o'r smotyn i benderfynu'r canlyniad.
Roedd y Seintiau wedi mynd ar y blaen wedi chwe munud pan sgoriodd y cyn-chwaraewr rhyngwladol, Steve Evans.
Dwywaith
Tarodd Craig Hughes yn ôl ychydig cyn yr egwyl cyn i Sam Finey rwydo i'r Seintiau.
Sgoriodd Corey Thomas ddwywaith i wŷr y gorllewin o fewn saith munud cyn i gôl Michael Wilde arwain at amser ychwanegol.
Cyfartal oedd hi ar ôl hanner awr.
Corey Thomas, Liam Thomas a Craig Hanford lwyddodd o'r smotyn ac Alex Darlington gafodd unig gic gosb y Seintiau.
Pan arbedodd Steven Cann ymdrech golgeidwad y Seintiau, Paul Harrison, roedd yn amser dathlu.