Achub dau gerddwr ar Fynydd Tryfan
- Cyhoeddwyd
Mae hofrennydd yr Awyrlu wedi achub dau gerddwr yn Eryri ddydd Sadwrn.
Roedd y ddau wedi mynd ar goll ar Fynydd Tryfan ac yn sythu yn yr oerfel ger clogwyn.
Cafodd hofrennydd o ganolfan Y Fali ei alw a sylwodd y criw ar olau tortsh wrth iddi nosi.
Chafodd neb ei anafu.