Chwaraewr snwcer yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae'r chwaraewr snwcer o Gaerfyrddin, Matthew Stevens, wedi ei wahardd rhag gyrru am flwyddyn am ei fod yn gyrru o dan ddylanwad alcohol.
Yn Llys Ynadon Llanelli plediodd yn euog i'r cyhuddiad ddydd Sadwrn.
Bydd rhaid i Stevens, 35 oed, dalu dirwy o £400.
Clywodd y llys ei fod wedi methu prawf anadlu pan oedd yn gyrru adre' yn ei gar Mercedes.
Roedd 51 o ficrogramau o alcohol mewn 100 o fililitrau o anadl.
Y lefel gyfreithiol yw 35.
Dywedodd Gareth Jones, ar ran yr amddiffyn: "Bydd cael ei wahardd yn golygu y bydd yn colli swm mawr o arian."
Ar hyn o byd mae Stevens yn cael ei restru'n Rhif 14 yn y byd.