Rhybudd am gerrig ar y ffordd yn Nyffryn Conwy

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi dweud y dylai gyrwyr ar yr A470 yn Nyffryn Conwy fod yn ofalus ar ôl i rywun neu rywrai osod cerrig ar y ffordd.

Ers dydd Mercher mae'r heddlu wedi cael pedair galwad oherwydd problemau ym Maenan ger Llanrwst.

Hefyd mae'r cyngor wedi gorfod symud cerrig oddi ar y ffordd.

Dywedodd Sarjant Aled Eynon: "Mae rhai ohonyn nhw tua'r un faint â phel-droed fach ac mae un gyrrwr wedi brecio'n sydyn a difrodi ei gar.

"Wrth lwc, doedd neb yn dod o'r cyfeiriad arall.

"Os yw'r troseddu'n parhau mi allai rhywun gael ei anafu ac rydan ni'n lwcus na chafodd neb ei ladd."

Arwyddion

Dywedodd fod adran y prif-ffyrdd yn gosod arwyddion rhybudd.

"Dwi'n apelio at y troseddwyr i feddwl o ddifri' am yr hyn maen nhw ei wneud ac i ddod â hyn i ben heddiw.

"A dwi'n awyddus i siarad â dyn yn gwisgo siaced oren lachar - mi allai fod yn dyst neu'n droseddwr."

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111 a dyfynnu RM13001114.